Gwella sgiliau ysgrifennu academaidd ar lefel AB yng Nghymru
Mewn cydweithrediad â Choleg Sir Benfro, sicrhaodd Equal Education Partners arian gan Taith i anfon dirprwyaeth o gydweithwyr Addysg Bellach o bob rhan o Gymru ar ymweliad cydweithredol i Brifysgol Florida i ddatblygu cyfres o adnoddau a gweithdai yn ymwneud ag ysgrifennu academaidd ac ymchwil.
Gwyliwch y fideo isod i glywed yr hyn oedd gan y cynadleddwyr a chynrychiolydd o Brifysgol Florida i’w ddweud am yr ymweliad symudedd.
Cefndir ac amcanion y prosiect
Pwrpas y prosiect hwn yw gwella canlyniadau dysgwyr ar lefel AB trwy weithio i ddatblygu sgiliau dysgwyr ymhellach mewn ysgrifennu academaidd ac ymchwil. Yn benodol, nod y prosiect yw rhoi mwy o wybodaeth a sgiliau i diwtoriaid AB ynghylch datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ymhlith dysgwyr AB. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr AB i wella perfformiad ym Magloriaeth Cymru a chymwysterau prosiect estynedig.
Trwy gydweithio ag arbenigwr blaenllaw yn Rhaglen Ysgrifennu Prifysgol UF, Dr Matthew Jones, a’i gydweithwyr, mae’r ddirprwyaeth yn datblygu cyfres o adnoddau dysgu proffesiynol wedi’u hanelu at diwtoriaid AB. Yn ogystal â’r adnoddau, mae’r bartneriaeth wedi trefnu digwyddiad dysgu proffesiynol i gyflwyno eu canfyddiadau i gynulleidfa ehangach ledled Cymru. Bydd hwn yn gyfle dysgu proffesiynol i weithwyr addysg bellach a bydd yn adeiladu ar yr adnoddau a ddatblygwyd.
Lawrlwythwch ein hadnodd